Rhif y ddeiseb: P-06-1370

Teitl y ddeiseb: Achub y ddarpariaeth mân anafiadau dros nos yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni

Geiriad y ddeiseb: Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi nodi ei fod yn bwriadu cau ei Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Nevill Hall dros nos. Bydd hyn yn golygu mai dim ond un Uned Mân Anafiadau fydd ar agor rhwng 1am a 7am yn ardal gyfan y bwrdd iechyd – yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Byddai’r newid hwn yn cynyddu amseroedd teithio yn sylweddol i drigolion ym Mlaenau Gwent, Sir Fynwy, Torfaen a rhannau o Gaerffili. Byddai’r newid yn gwneud Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty y Faenor yn fwy prysur fyth.

Mae’r bwrdd iechyd wedi cychwyn ymgynghoriad ar y cynnig: https://bipab.gig.cymru/amdanom-ni/ymgysylltu/ymgysylltu-ymgynghori-cyhoeddus/cyfleoedd-presennol/ymgysylltiad-8-wythnos-ar-ddarparu-gwasanaethau-uned-man-anafiadau/

 

 


1.        Y cefndir

Mae Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni yn darparu gofal i drigolion Gwent a De Powys, ac ar hyn o bryd yn cynnig gofal 24 awr, saith diwrnod yr wythnos, dan arweiniad nyrs mewn Uned Mân Anafiadau.

Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan “ymgysylltiad 12 wythnos” ar ddarpariaeth gwasanaethau Uned Mân Anafiadau. Yn ôl dogfen friffio’r bwrdd iechyd mae gwerthusiad diweddar o’r galw am Unedau Mân Anafiadau wedi nodi patrymau gweithgaredd allweddol ar draws safleoedd, ac wedi amlygu anghydbwysedd sylweddol rhwng oriau agor a galw cleifion ar draws yr unedau mân anafiadau. Canfuwyd mai ychydig iawn o gleifion sy’n mynychu Uned Mân Anafiadau Ysbyty Nevill Hall rhwng 1:00am a 7:00am:

Between 1 April 2022 and 31 March 2023, there were 400 attendances to NHH MIU (approximately one patient per night) during these hours. By contrast, there were 1,530 attendances to RGH MIU (approximately four patients per night) during the same hours

Mewn ymateb i’r canfyddiadau hyn, mae’r bwrdd iechyd yn dweud ei fod wedi ystyried nifer o opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol, gyda’r nod o sicrhau bod capasiti’n cyfateb i’r galw yn y ffordd orau bosibl, a datblygu’r model mwyaf cadarn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Yr opsiwn a ffefrir gan y bwrdd iechyd yw gwneud yr oriau agor dros dro presennol yn Ysbyty Ystrad Fawr yn barhaol (7:00am i 1:00am, saith diwrnod yr wythnos), a chyflwyno'r un patrwm oriau agor yn Ysbyty Nevill Hall. Pe bai’n cael ei fabwysiadu, byddai darpariaeth gwasanaeth Uned Mân Anafiadau fel a ganlyn:

·         Ysbyty Brenhinol Gwent – Ar agor 24 awr, saith diwrnod yr wythnos

·         Ysbyty Nevill Hall – Ar agor 18 awr o 7:00am i 1:00am, saith diwrnod yr wythnos

·         Ysbyty Ystrad Fawr – Ar agor 18 awr o 7:00am i 1:00am, saith diwrnod yr wythnos

·         Ysbyty Aneurin Bevan – Ar agor rhwng 9:00am a 7:00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau’r banc)

Mae’r cyfnod ymgysylltu yn para tan 5:00pm ddydd Gwener 1 Rhagfyr 2023. Bydd yr ymatebion yn cael eu coladu mewn adroddiad ymgysylltu a fydd yn cael ei rannu gyda rhanbarth Llais Gwent (y corff sydd wedi disodli Cynghorau Iechyd Cymuned) i nodi a ellir gwneud penderfyniad terfynol, neu a oes angen cymryd camau pellach.

Yn ôl y bwrdd iechyd – yn amodol ar drafodaethau pellach gyda Llais – efallai y bydd yn dymuno cychwyn ar gyfnod o ymgynghori ffurfiol, ac os felly byddai'n gwahodd sylwadau unwaith eto.

2.     Camau gan Senedd Cymru

Yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Hydref 2023, cododd Peredur Owen Griffiths AS y mater gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y newidiadau arfaethedig, a gofynnodd:

O ystyried bod unedau mân anafiadau yn cael eu gweld yn elfen allweddol mewn strategaeth i leddfu'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys, onid yw'n gam yn ôl, ac a fydd hyn yn gwneud Ysbyty Athrofaol y Faenor yn brofiad hyd yn oed yn hirach ac yn fwy rhwystredig i unrhyw un sy'n ymweld â'u hadran damweiniau ac achosion brys ac yn rhoi mwy o bwysau ar y staff sy'n gweithio yno?

Atebodd y Gweinidog fel a ganlyn:

[…] mae'n amlwg yn rhywbeth rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd wedi ei ystyried o ddifrif. Ond y ffaith amdani yw, yn enwedig mewn perthynas ag uned mân anafiadau'r Fenni, ar gyfartaledd, roedd un claf yno dros nos. Nawr, yn y sefyllfaoedd hyn o bwysau ariannol, mae'n anodd iawn cyfiawnhau hynny ar sail gwerth am arian. Ac yn sicr dyna un o'r rhesymau pam eu bod wedi cau'r cyfleuster hwnnw, a symud pobl, ac annog pobl i fynd i ysbyty newydd y Faenor, lle rydym wedi buddsoddi'n sylweddol, a byddwn yn gwneud buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Rydym wedi rhoi £3.5 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol tuag at sefydlu canolfan gofal argyfwng yr un diwrnod, er enghraifft, yn ysbyty'r Faenor.

3.     Ymateb Llywodraeth Cymru

Nododd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei hymateb i’r ddeiseb mai’r bwrdd iechyd sy’n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd ar ran ei boblogaeth leol.

Dywedodd y Gweinidog ei bod yn ymwybodol, yn dilyn gwerthusiad diweddar o wasanaethau uned mân anafiadau, fod y bwrdd iechyd wedi nodi anghydbwysedd rhwng oriau agor a galw cleifion ar draws yr unedau, ac:

Er mwyn cydnabod y galw isel gan gleifion dros nos mewn rhai safleoedd (ar gyfartaledd un  claf rhwng 1am a 7am yn Ysbyty Nevill Hall), mae'r bwrdd iechyd yn ceisio sicrhau bod yr adnodd staff gwerthfawr hwn yn cael ei ddefnyddio mor effeithiol â phosibl ac y gall timau clinigol gynnal eu sgiliau.

Dywedodd y Gweinidog y byddai'n annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan yn y broses ac na fyddai unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud gan y bwrdd iechyd tan ar ôl i’r broses ymgysylltiad cyhoeddus ffurfiol ddod i ben ym mis Rhagfyr.

 

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.